Search for a command to run...
Mae dadansoddiad newydd a gynhyrchwyd gan Academi’r Gwyddorau Mathemategol (AcadMathSci) yn manylu ar gyfraniad y gwyddorau mathemategol i economi Cymru yn 2024. Mae’r dadansoddiad sylfaenol hwn yn dangos bod y gwyddorau mathemategol yn rhan sylweddol ac economaidd hanfodol o economi Cymru. Yn 2024, bu 195 000 o bobl yn gweithio mewn galwedigaethau gwyddorau mathemategol (GM) yng Nghymru, gan gyfrannu £14 biliwn mewn gwerth economaidd uniongyrchol: 16% o gyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) Cymru. Mae’r rhain yn swyddi cynhyrchiant uchel sy’n talu’n dda, wedi’u gwreiddio ym mhob rhan o economi fodern Cymru, o wyddor data a gwasanaethau ariannol i addysg a gweithgynhyrchu. Roedd gweithwyr GM yn ennill cyflogau 50% yn uwch, ac roeddent 30% yn fwy cynhyrchiol (wedi'i fesur gan GYG fesul gweithiwr) na'u cymheiriaid nad oeddent yn weithwyr GM. Y tu ôl i'r niferoedd yma mae stori bwerus: bod buddsoddi mewn gwyddorau mathemategol—mewn addysg, ymchwil a phobl—yn adeiladu dyfodol mwy arloesol, gwydn a llewyrchus. Mae Academi’r Gwyddorau Mathemategol wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwyddorau mathemategol yn parhau i ffynnu, fel peiriant twf economaidd a hefyd fel grym i greu cyfle, dealltwriaeth a chynnydd ar draws cymdeithas.